Glanfa Goetre

Camlas Mynwy ac Aberhonddu

Atyniad poblogaidd sy’n ymestyn dros 8 erw, ac sy’n cynnwys Canolfan Ymwelwyr, traphont ddŵr, odynau calch wedi’u hadfer a bwthyn y peiriant pwyso. Mae nodweddion eraill yn cynnwys dehongliad rhyngweithiol, llwybr rhwbiadau pres a llwybr cerfluniau llythrennedd. Yn ogystal â hyn, ceir marina prysur, llithrfeydd, gwasanaeth llogi canŵod a chychod, bwyty, safle picnic a llithren i blant.

Dyma safle swynol! Atyniad poblogaidd sy’n ymestyn dros 8 erw, ac sy’n cynnwys Canolfan Ymwelwyr, traphont ddŵr, odynau calch wedi’u hadfer a bwthyn y peiriant pwyso. Mae nodweddion eraill yn cynnwys dehongliad rhyngweithiol, llwybr rhwbiadau pres a llwybr cerfluniau llythrennedd. Yn ogystal â hyn, ceir marina prysur, llithrfeydd, gwasanaeth llogi canŵod a chychod, bwyty, safle picnic a llithren i blant. Beth sydd i’w wneud yno? Teithiau cerdded trwy’r coetir Llogi cwch Canolfan ymwelwyr Caffi Maes parcio bysiau Man chwarae i blant Eisiau gwybod mwy? Waterscape www.waterscape.com www.fourteenlocks.co.uk www.foresteducation.org www.mon-brec-canal-trust.org.uk Teuluoedd Dyma le perffaith i’r teulu ymweld ag ef. Gallwch chi logi cwch am y dydd a mynd ar daith ar hyd y gamlas neu grwydro’r llwybrau di-ri ger llwybr tynnu’r gamlas a’r coetir cyfagos. Wrth fwynhau lluniaeth yn y caffi gallwch weld llawer o’r adeiladau rhyfeddol, fel yr odynau calch sydd wedi’u hadfer, a oedd yn fwrlwm o fywyd yn eu dydd. Teithiwch yn ôl mewn amser trwy wylio’r dehongliad, yn y ganolfan ymwelwyr ac o amgylch y safle 8 erw. Dylai fod yna rywbeth at ddant pawb ar lan y gamlas brydferth hon. Beth am ysgolion a grwpiau? Mae croeso i ysgolion a grwpiau bob amser yng Nglanfa Goetre, ar lan Camlas Mynwy ac Aberhonddu, ond mae’n hanfodol i ni gael gwybod eich bod yn dod, felly ffoniwch i drafod eich gofynion ac i archebu lle. Bydd gwneud hyn yn sicrhau eich bod yn cael diwrnod i’r brenin. Mae Glanfa Goetre’n lle delfrydol ar gyfer teithiau addysgiadol. Bydd ymweliad yn gwella ymwybyddiaeth myfyrwyr o ardal hanesyddol bwysig ac arwyddocaol yn ardal ddiwydiannol De Cymru a bydd taith gerdded ar lwybr cerfluniau llythrennedd y goedwig yn ychwanegu ychydig o “hud” i’ch diwrnod. Gellir astudio materion yn ymwneud â chadwraeth, yr amgylchedd a diogelwch dŵr ar y safle. Mae Llwybr Llythrennedd Glanfa Goetre’n dilyn llwybr cylchol 1230 metr o hyd. Mae darnau o waith gan y cerflunydd John Hobbs i’w gweld ar ei hyd. Mae’r cerfluniau, a wnaed o ddeunyddiau lleol, yn cyfrannu at naws y coetir yng nghyffiniau Glanfa Goetre a gall pawb sy’n ymweld â’r atyniad poblogaidd hwn ar lan y dŵr ym Mynwy ei fwynhau. Mae aelodau o Grŵp Clwstwr Menter Addysg y Goedwig Sir Fynwy wedi ysgrifennu stori arbennig ar gyfer y llwybr ac wedi datblygu gweithgareddau dysgu cysylltiedig er mwyn cyfoethogi cwricwlwm llythrennedd plant o 3 i 11 mlwydd oed. Prosiect Menter Addysg y Goedwig yw’r llwybr a’r pecyn athrawon cysylltiedig a ddatblygwyd gyda chefnogaeth Dyfrffyrdd Prydain, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Sir Fynwy a Gyrfa Cymru/Cysylltiadau Addysg a Busnes. Nod y Llwybr: I ysgogi plant fel chwedleuwyr ac awduron: i ddarparu profiadau iddynt a fydd yn cyfoethogi ac yn gwella eu sgiliau llythrennedd. Cofiwch gadw’n DDIOGEL ger y dŵr - Cadwch draw o’r lan

Where is it?

Go to map

Glanfa Goetre
Llanofer
Y Fenni
Sir Fynwy

NP79EW

Contact

Phone: 01606 723800
Email: enquiries.wbc@britishwaterways.co.uk
Fax:

Materials may be reproduced for educational purposes. © British Waterways 2007-2012. Privacy statement. Waterscape.com